Mae Ysgol Gymraeg Gwenllian yn ysgol benodedig Gymraeg yng nghanol Cydweli, Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd mae tua 120 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys rhai rhan amser yn ogystal â rhai llawn amser yn y Dosbarth Meithrin. Dosrennir y disgyblion mewn dosbarthiadau yn ôl eu hoedran.