Mae ParentPay yn ffordd fwy cyfleus a diogel i chi dalu am brydau a gweithgareddau ysgol ar-lein. Pan fydd eich ysgol yn dechrau defnyddio ParentPay, byddwch yn derbyn llythyr gydag enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw. Bydd rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf. Hefyd, bydd angen arnoch gyfeiriad e-bost dilys.
Trwy ddefnyddio'ch cyfrif ParentPay, gallwch wneud y canlynol:
- talu am brydau ysgol ac eitemau eraill megis tripiau ysgol, gwisg ysgol ac ati.
- gweld hanes yr holl daliadau rydych wedi'u gwneud
- creu un cyfrif ar gyfer eich holl blant
- cael derbynebau a negeseuon e-bost awtomatig yn eich atgoffa bod angen rhoi rhagor o arian yn eich cyfrif. Gallwch dderbyn negeseuon atgoffa trwy neges destun ond mae yna ffi o 6c y neges ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae derbynebau a negeseuon atgoffa dros e-bost yn rhad ac am ddim.
- gwneud taliadau 24/7 gan ddefnyddio unrhyw ddyfais sydd â mynediad i'r rhyngrwyd
- talu am dripiau ysgol bob yn dipyn
Ni fydd angen i chi anfon eich plant i'r ysgol gydag arian parod neu sieciau, mae'r taliadau'n digwydd ar unwaith a bydd yr arian ar gael yn syth ar gyfrif eich plentyn. Ar ôl i'r ysgol ddechrau defnyddio ParentPay, ni fyddwn yn derbyn taliadau arian parod/sieciau am brydau ysgol yn yr ysgol.Os oes angen i chi barhau i wneud taliadau trwy ddefnyddio arian parod, gallwch ddefnyddio PayPoint sydd ar gael mewn nifer o siopau lleol yn y Sir.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os oes angen help, defnyddiwch y manylion isod:
Ebost: schoolmeals@carmarthenshire.gov.uk
Ffôn: 01267 246714
