Prydau ysgol am ddim
Dim ond plant y mae eu rhieni neu warcheidwaid yn cael un o'r budd-daliadau canlynol sy'n gallu cael prydau ysgol am ddim. Mae gan blant sy'n derbyn un o'r budd-daliadau eu hunain hefyd hawl i gael prydau ysgol am ddim:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 Yr elfen warant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Yr elfen warant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Treth Plant, ond HEB dderbyn Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eu haelwyd (a aseswyd gan Gyllid y Wlad) yn fwy na £16,190 (o'r 6ed Ebrill 2014) oni bai bod y Credyd Treth Gwaith yn rhan o estyniad pedair wythnos.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
- Credyd Cynhwysol
Cliciwch ar y linc isod: